Dweud eich dweud – Eich iechyd, gofal cymdeithasol a lles
Rydym yn eich gwahodd i fynychu digwyddiad ymgysylltu am ddim, er mwyn i chi gael dweud eich dweud ar iechyd, gofal cymdeithasol a lles yng Nghaerdydd ac yng Nghymru. Fe’i cynhelir ar:
Dyddiad: Dydd Mawrth 21ain o Chwefror
Amser: 10yb hyd 4yh
Lle: Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP
Bydd cinio a lluniaeth am ddim yn cael ei ddarparu yn y digwyddiad.
Gellir ad-dalu costau teithio, gofal plant, gofal a mynediad pe bai angen.
Mae Diverse Cymru yn dod â phobl ynghyd o gymunedau amrywiol sydd ynghlwm â chydraddoldeb, i gynnal diwrnod i drafod eich profiadau, eich atebion a’r ffordd ymlaen ynglyn â:
- Gwasanaethau iechyd a lles
- Gofal cymdeithasol
- Tai a llety
- Arian a budd-daliadau
- Diogelwch cymunedol
- Cyflogaeth a gwirfoddoli
- Addysg a hyfforddiant
- Cymdeithasu a hamdden
- Trafnidiaeth
Estynnwn groeso yn arbennig i’r rhai yng Nghaerdydd sydd yn:
- Bobl anabl
- Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
- Bobl lesbaidd, hoyw a deurywiol
- Bobl drawsrywiol
- Bobl o wahanol grefyddau a chredoau
- Bobl hyn
- Bobl iau
- Merched
Rhaid archebu’ch lle erbyn dydd Llun 13 Chwefror 2017 drwy gwblhau’r ffurflen gofrestru atodedig a’i dychwelyd i:
Shelagh Maher, Diverse Cymru, 307-315 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Canton, Caerdydd, CF5 1JD
Neu drwy ebost at: shelagh.maher@diverse.cymru
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch ffonio Shelagh ar 029 2036 8888 neu anfon ebost at shelagh.maher@diverse.cymru
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, dietegol neu iaith pan fyddwch chi’n archebu eich lle.
Gobeithiwn eich gweld ar y 21ain.