Latest News

Etholiad Cyffredinol y DU: Galwadau i Weithredu

Mae Diverse Cymru yn credu y dylai cydraddoldeb a hawliau dynol fod wrth galon pob penderfyniad mae gwleidyddion yn ei wneud sy’n effeithio ar Gymru. Rhaid iddynt ystyried effaith eu polisïau ar bawb; rhaid deall bod pob unigolyn yn agored i wahaniaethu, tlodi a chael eu trin yn annheg. Mae’n rhaid i ni sefyll dros hawliau dynol pawb yng Nghymru.

Heddiw, mae Diverse Cymru wedi cyhoeddi galwad i weithredu ar gyfer ymgeiswyr etholiad seneddol y DU yn pwysleisio’r angen am arweiniad cadarn i hyrwyddo cydraddoldeb a dathlu amrywiaeth. Daw’r alwad hon ar adeg pan mae cyllid ac adnoddau ar gyfer gwaith cydraddoldeb yn lleihau, a’r angen yn cynyddu.

Mae Diverse Cymru yn cydnabod y gwaith ardderchog sydd eisoes yn cael ei wneud ar gyfer nifer o grwpiau gwarchodedig, ond credwn fod angen mwy o gydnabyddiaeth o’r amryw agweddau sydd i hunaniaeth pob unigolyn, a dylai polisïau a gwasanaethau ddarparu ar eu cyfer.

Ni fydd ymagwedd ‘yr un driniaeth i bawb’ yn bodloni gofynion cydraddoldeb pob cenhedlaeth ym mhoblogaeth gynyddol amrywiol a chynyddol h?n Cymru a’r DU. Bydd methu â gwneud y newid sylfaenol hwn yn y ffordd rydym yn mynd i’r afael â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn gadael llawer o bobl yng Nghymru mewn perygl o wahaniaethu, tlodi ac anghyfiawnder.

Rydym yn cyhoeddi’r galwadau i weithredu canlynol fel y gall ymgeiswyr i Senedd y DU ddatgan eu cred ac addo eu hymdrechion i greu Oes Cyfiawnder yng Nghymru a’r DU.

  1. Mae’n rhaid i ASau ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddynt i sicrhau fod pob unigolyn yn cael ei drin fel unigolyn, ac yn cael ei drin gydag urddas a pharch. Rydym yn galw ar ymgeiswyr i wneud ymroddiad i gynnal lefel gwarchodaeth cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU fel lleiafswm, ac yn gofyn iddynt edrych ar gynyddu’r hawliau a’r warchodaeth hon ble gellir tystiolaethu anghyfartalwch.
  2. Mae’n rhaid i ni greu Oes Cyfiawnder, lle mae pobl o’n holl gymunedau amrywiol yn cael eu diogelu ac yn derbyn cefnogaeth lawn i fyw bywyd heb ragfarn a gwahaniaethu.
  3. Mae tlodi ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn cael effaith anghyfartal ar y grwpiau a’r unigolion mwyaf difreintiedig. Dylid mynd i’r afael â hyn drwy ddarparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth o safon.
  4. Mae angen i’r system budd-dal lles fod yn haws i’w deall a’i defnyddio i bawb. Dylid cynyddu ymwybyddiaeth am fudd-daliadau i bobl mewn gwaith ac i’r rhai sy’n ddi-waith drwy ymgyrchoedd cenedlaethol. Dylai prosesau asesu fod yn fwy hyblyg ac ymatebol i anghenion a sefyllfaoedd gwahanol pob unigolyn.
  5. Mae angen i gyflogwyr a chefnogaeth i gychwyn cyflogaeth fod yn hyblyg ac yn ymatebol i sefyllfaoedd ac anghenion unigolion. Dylid rhoi gwerth ar wirfoddoli fel gweithgaredd ystyrlon a datblygiad personol. Ni ddylai gwirfoddoli effeithio hawl i dderbyn budd-dal.

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae’n rhaid i ASau ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddynt i sicrhau fod pob unigolyn yn cael ei drin fel unigolyn, a’i drin gydag urddas a pharch. Rydym yn galw ar ymgeiswyr i wneud ymroddiad i gynnal lefel gwarchodaeth cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU fel lleiafswm, ac i edrych ar fwyhau’r hawliau a’r warchodaeth hon ble gellir tystiolaethu anghyfartalwch.

Yn y DU, gallwn fod yn falch o’n hanes o arwain ar ddatblygu canfyddiadau a chytundebau rhyngwladol am gydraddoldeb a hawliau dynol.

Mae lefel y warchodaeth a gynigir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998 yn gydran hanfodol o gymdeithas ble caiff pob unigolyn fod yn nhw’u hunain.

Mae yna rai meysydd ble nad yw gwarchodaeth cydraddoldeb yn berffaith, megis troseddau casineb neu pan ddefnyddir iaith o’r model meddygol wrth drafod pobl anabl, sydd yn categoreiddio pobl yn ôl y cyflyrau iechyd sydd ganddynt, yn lle defnyddio’r model cymdeithasol, sydd yn canolbwyntio ar ddileu rhwystrau. Fodd bynnag, mae angen i lefel y warchodaeth a ddatblygwyd dros y degawdau diwethaf barhau, ac ni ddylid ei leihau na’i roi mewn perygl ym Mhrydain, gwlad sydd yn cydnabod pob unigolyn a’u hawl i gael eu trin gydag urddas a pharch.

Dylid cyd-gynhyrchu deddfwriaeth, polisi ac arfer gydag unigolion sy’n cynrychioli amrywiaeth y DU er mwyn sicrhau ei fod yn parchu pob unigolyn ac yn datblygu cydraddoldeb i bawb.

Oes Cyfiawnder

Dylid atgyfnerthu deddfwriaeth troseddau casineb fel bod lefel mynediad at gyfiawnder i’r holl nodweddion gwarchodedig yn cyrraedd yr un lefel ag a roddir i hil ar hyn o bryd. Dylai hyn gynnwys troseddau yn erbyn pobl h?n.
Dylai deddfwriaeth troseddau casineb a’i weithrediad ganolbwyntio ar ble mae unrhyw nodwedd warchodedig yn elfen benodol neu’n ffactor cymhelliant yn y drosedd. Dylid cofnodi troseddau a digwyddiadau casineb ar gyfer pob nodwedd warchodedig ac adnabod profiadau gwahanol grwpiau o fewn nodweddion gwarchodedig ac aml-hunaniaeth.
Dylid gweithredu ymgyrch codi ymwybyddiaeth cenedlaethol er mwyn annog riportio troseddau a digwyddiadau casineb a mynd i’r afael â chamddealltwriaeth ynghylch troseddau casineb.
Dylid datblygu a gweithredu prosesau amlasiantaeth (MARAC) yn benodol yngl?n ag edrych ar achosion ac ymatebion holl asiantaethau i droseddau a digwyddiadau casineb ar gyfer achosion unigol ym mhob gr?p ymysg y nodweddion gwarchodedig.
Dylai holl staff yr heddlu a chyfiawnder troseddol dderbyn hyfforddiant ar anghenion a phryderon pob un o’r grwpiau nodweddion gwarchodedig ac ar droseddau casineb.

Budd-daliadau lles

Mae’n rhaid i’r system budd-daliadau lles gefnogi pobl i gyflawni eu potensial a chreu maes chwarae teg i bawb.

Mae angen rhagor o wybodaeth i’r cyhoedd ac ymwybyddiaeth o’r budd-daliadau sydd ar gael i bobl mewn gwaith, fel Taliad Annibyniaeth Personol a Mynediad at Waith. Mae nifer o bobl anabl nad ydynt yn ymwybodol y gallant fod yn gymwys i dderbyn Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) tra maen nhw mewn gwaith. Mae angen mwy o eglurder am wahanol amgylchiadau a sut mae budd-daliadau’n gweithio.

Dylai budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd, fel PIP a DLA barhau i fod yn adwy i brosesau cyflymach ar gyfer Bathodynnau Glas a budd-daliadau eraill, ond ni ddylai’r rhain fod yr unig lwybr at dderbyn y budd-daliadau hyn. Mae’n hanfodol bod unigolion yn cael gwneud cais ar wahân am bob budd-dal sydd â meini prawf cymhwystra gwahanol, a dylent gael pledio eu hachos os nad ydyn nhw’n derbyn PIP na DLA.

Mae angen i aseswyr meddygol ar gyfer PIP, DLA a Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth (ESA) gynnwys gweithwyr proffesiynol sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ar wahanol gyflyrau meddygol a’r ystod eang o effeithiau posibl ar fywydau unigolion. Dylid cydweddu aseswyr priodol gyda phob hawliwr. Dylai cwestiynau gael eu teilwra i amgylchiadau’r unigolyn, nid i’w cyflwr iechyd yn unig. Dylid adolygu asesiadau ESA er mwyn sicrhau ei fod yn asesu gallu pob unigolyn i weithio yn gywir. Dylai unigolion nad ydynt yn gallu gweithio dderbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i wireddu eu potensial a mwyhau byw’n annibynnol. Dylid adsefydlu’r Gr?p Gweithgareddau sy’n Gysylltiedig â Gwaith er mwyn cydnabod a chefnogi pobl anabl nad ydynt yn gallu gweithio ar hyn o bryd, ond a allai gychwyn cyflogaeth ymhen blwyddyn os darperir cefnogaeth.  Dylai ESA adnabod y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn mynd i weithio pan fydd unigolyn anabl yn gallu gweithio a dylid darparu gefnogaeth wedi’i theilwra er mwyn mynd i weithio ac aros mewn gwaith.

Dylai cymhwystra ar gyfer y gydran symudedd o’r PIP adnabod effeithiau symudedd cyfyngedig ar gostau byw pobl anabl a chymryd ystyriaeth o’r effaith y caiff symudedd cyfyngedig pan fo unigolion yn gallu cerdded mwy na 50 medr. Yn ystod y broses ailystyried ac apêl, mae’n hanfodol fod unigolion gyda cherbyd Motability yn parhau i gael mynediad at y cerbyd hwnnw nes bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud. Ar hyn o bryd, mae unigolion yn colli eu hannibyniaeth a’u gallu i fynd o le i le yn ystod y broses apêl.

Cyflogaeth a gwirfoddoli

Dylid cefnogi rhannu sgiliau rhwng gwahanol gymunedau er mwyn annog pobl i ddysgu o brofiadau grwpiau eraill.

Dylai cyflogwyr fod yn fwy rhyngweithiol ac arloesol wrth fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl iau, pobl anabl, pobl h?n, pobl BME a phobl LGBT, merched a phobl â ffydd. Mae gweithio gydag unigolion i ddod o hyd i ddatrysiadau i rwystrau yn y gweithle, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na fedr unigolyn ei wneud, yn hanfodol er mwyn cau’r bwlch mewn cyflogaeth a chyflog.

Dylai cefnogaeth i gychwyn cyflogaeth fod yn fwy hyblyg a dylai annog datrysiadau cadarnhaol, arloesol drwy weithio gyda chyflogwyr.

Mae mentora a chefnogaeth barhaus yn y gweithle yn bwysig er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau i nifer o gymunedau amrywiol.

Dylid hyrwyddo straeon a darluniau cadarnhaol yn y cyfryngau sy’n dangos pobl anabl, pobl iau, pobl h?n, pobl BME a LGBT, merched a phobl â ffydd yn llwyddo yn y gweithle. Byddai hyn yn mynd i’r afael â’r  canfyddiadau a straeon negyddol parhaus am gyflogi grwpiau a dangynrychiolir. Dylid hefyd cael straeon cadarnhaol yngl?n â sut mae budd-daliadau lles yn cefnogi pobl anabl a grwpiau eraill a dangynrychiolir i gyrraedd eu llawn botensial a chyfrannu i gymdeithas, er mwyn gwrthweithio ystrydebau a darluniau negyddol o’r rhai sy’n derbyn budd-dal.

Dylai lleoliadau gwaith mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion fod yn fwy ymarferol, yn hirach, a chael eu cynnig mewn ystod ehangach o yrfâu er mwyn galluogi pobl ifanc i ddatblygu mwy o sgiliau a phrofiad cyn mynd i’r farchnad waith.

Gall gwirfoddoli fod yn ffordd hanfodol i ddatblygu sgiliau a phrofiad er mwyn galluogi pobl i ddechrau neu ail-ddechrau cyflogaeth. Gall hefyd helpu pobl i lenwi bylchau cyflogaeth yn eu CV. Dylid cydnabod gwirfoddoli fel rhan o hyfforddiant a chwilio am waith.

Gall gwirfoddoli hefyd fod yn fwy hyblyg a chynnig gweithgareddau ystyrlon i bobl nad ydynt yn gallu gweithio ac ni ddylid ei weld fel peth negyddol

Lawrlwytho’r Galwadau i Weithredu

Os rydych yn credu fod rhaid i gydraddoldeb a hawliau dynol ddod yn gyntaf, rhannwch y dudalen hon gyda’ch ymgeiswyr etholiad.