Ymgynghoriad Cyhoeddus ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2020 – 2024
Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff rhestredig adolygu eu hamcanion cydraddoldeb presennol o leiaf bob pedair blynedd.
Ystyr Amcanion Cydraddoldeb yw nodau y mae sefydliadau’n eu pennu. Gofynnir i sefydliadau gyhoeddi eu hamcanion diwygiedig a’r camau (gweithredu) y byddant yn eu cymryd i’w cyflawni erbyn 1af Ebrill 2020.
Yn unol ag argymhellion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) a Llywodraeth Cymru, roedd nifer o gyrff cyhoeddus yn awyddus i gydweithio i gytuno ar amcanion cyffredin. Mae hyn wedi golygu rhannu adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd. Mae’r gr?p o gyrff a elwir yn ‘Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru’ wedi ymrwymo i gydweithio dros y tymor hir i weithredu ar y cyd i gyflawni’r amcanion, gan ddeall yr effaith y gallant ei chael ar y cyd drwy gytuno ar fesurau canlyniadau tryloyw.
Y gobaith yw y bydd cydweithio yn sicrhau mwy o effaith wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mwy cyfartal, gan gyfrannu’n sylweddol at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau fel y nodir yn yr adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach, 2018’.
Mae’r gwaith ar y cyd hwn yn adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a bydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at y nod llesiant cenedlaethol ‘Cymru fwy Cyfartal’. Drwy holl waith y bartneriaeth bydd yr egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio yn cael eu cymhwyso a bydd tystiolaeth o hynny.
Digwyddiadau dweud eich dweud
Rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ynghylch yr Amcanion Cydraddoldeb hyn.
Y digwyddiadau hyn yw eich cyfle i ddweud wrthym ba gamau y dylem eu cymryd i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb.
Rydym yn croesawu unigolion amrywiol a grwpiau cymunedol neu sefydliadau trydydd sector yn y digwyddiadau hyn.
Cofrestrwch:
Gorllewin Cymru – 28 Tachwedd 2019
De Ddwyrain Cymru – 29 Tachwedd 2019
Gogledd Cymru – 2 Rhagfyr 2019
Ymgynghoriad:
Dogfennau:
Darparu Gwasanaethau yn y Sector Cyhoeddus
Asesiad effaith ar gydraddoldeb
Dyma’r Cyrff Cyhoeddus dan sylw:
Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru, CCAUC, Comisiynydd y Gymraeg, Gyrfa Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, AaGIC, Chwaraeon Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre.
Mae unigolion amrywiol yn cynnwys:
- Pobl ifanc dan 26 oed
- Pobl h?n dros 50 oed
- Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, gan gynnwys Sipsiwn, Sipsiwn Roma a Theithwyr
- Pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys:
- Pobl â namau symudedd. Er enghraifft, defnyddwyr cadeiriau olwyn neu bobl â chyflyrau iechyd sy’n effeithio ar eu gallu i gerdded.
- Pobl â namau ar y synhwyrau. Er enghraifft, pobl ddall, byddar neu bobl â nam ar eu clyw.
- Pobl ag anableddau dysgu. Er enghraifft, pobl awtistig neu bobl â dyslecsia neu ddyspracsia.
- Pobl â namau gwybyddol. Er enghraifft, pobl â dementia neu hydroceffalws.
- Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Er enghraifft, HIV, diabetes neu MS.
- Pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol
- Pobl trawsryweddol
- Pobl o wahanol grefyddau a ffydd
- Menywod a dynion
- Pobl sy’n feichiog neu famau newydd
Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cofrestru os ydych am gyfrannu yn Gymraeg neu yn Saesneg; os oes gennych unrhyw ofynion dietegol; ac unrhyw ofynion mynediad.
Gallwn ad-dalu costau teithio, gofal plant, gofal amgen, mynediad a chostau tebyg ar gyfer unigolion amrywiol. Cysylltwch â ni cyn y digwyddiad i gael gwybodaeth