Anabledd

Anghydraddoldeb Anabledd yng Nghymru

Y Ffeithiau

Mae’n wir y bydd y rhan fwyaf ohonom ni’n dioddef salwch rywbryd yn ystod ein bywyd. Fodd bynnag, cyflyrau dros dro yw’r rhain fel arfer, rhai nad ydynt yn cael effaith barhaol ar y ffordd rydym yn byw o ddydd i ddydd[1].

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae person yn anabl os oes arnyn nhw nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eu gallu i wneud gweithgareddau arferol. Mae pethau arferol yn cynnwys pethau fel defnyddio ffôn, darllen llyfr neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus[2].

Yng Nghymru a Lloegr, mae tua 10 miliwn o bobl yn byw gyda chyfyngiad ar eu gweithgareddau arferol oherwydd problem iechyd neu anabledd[1].

Yng Nghymru

Yng Nghymru roedd nifer y bobl oedd â chyfyngiadau ar eu gweithgareddau arferol yn sylweddol uwch nag yng ngweddill y DG.

Adroddodd tua 364,550 o bobl (11.9%) eu bod wedi eu ‘cyfyngu’n fawr’ ac ymron i 330,850 (10.8%) eu bod wedi eu ‘cyfyngu ychydig’. Mae hyn y golygu bod ymron i 695,400 o bobl sy’n byw yng Nghymru naill ai wedi eu ‘cyfyngu’n fawr’ neu wedi eu ‘cyfyngu ychydig’.

O ganlyniad, mae problemau iechyd neu anableddau’n effeithio ar weithgareddau arferol mwy nag un person o bob pump (22.7%) yng Nghymru.

Credir fod hyn oherwydd bod y canran o boblogaeth Cymru sy’n 55 oed neu’n h?n yn uwch nag yn Lloegr. Mae cyfyngiadau ar weithgareddau yn sylweddol fwy cyffredin yn yr ystod oedran hon[3].

Gwybod eich Hawliau

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu unrhyw un sydd â, neu sydd wedi cael, anabledd. Felly, er enghraifft, os bu gan berson gyflwr iechyd meddwl yn y gorffennol oedd yn bodloni diffiniad y Ddeddf o anabledd, a’i fod yn dioddef aflonyddu o’r herwydd, byddai hynny’n anghyfreithlon.

Mae’r Ddeddf hefyd yn diogelu pobl rhag dioddef gwahaniaethu ac aflonyddu oherwydd anabledd nad oes ganddyn nhw yn bersonol. Er enghraifft, mae’n diogelu pobl y tybir ar gam eu bod yn anabl. Mae hefyd yn diogelu pobl rhag cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu bod yn gysylltiedig â pherson anabl. Er enghraifft, pe bai rhywun yn gwrthod gwasanaeth i fam plentyn anabl oherwydd y cysylltiad hwn, byddai hynny’n cyfrif fel gwahaniaethu anghyfreithlon.

  • Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fydd darparwr gwasanaeth neu gyflogwr yn trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd yr anabledd ei hunan. Yn achos gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd, y cwestiwn sy’n codi yw a gafodd y person anabl mewn gwirionedd ei drin yn anffafriol oherwydd rhywbeth cysylltiedig â’i anabledd.
  • Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd rheol, polisi, neu hyd yn oed arfer, sy’n berthnasol i bawb ond sy’n rhoi pobl gydag anabledd penodol dan anfantais o’u cymharu â phobl nad oes ganddyn nhw’r anabledd hwnnw, ac ni ellir ei gyfiawnhau fel ymgais i gyrraedd amcan cyfiawn mewn modd teg, cytbwys a rhesymol. Fel gyda gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd, mae angen cael cydbwysedd rhwng effaith negyddol rheolau neu arferion ar rai pobl, a’r rhesymau dros eu rhoi ar waith. Felly dylech ystyried a oes unrhyw ffordd arall o gyrraedd eich amcanion na fyddai’n gwahaniaethu’n annheg. Cofiwch bod diffyg adnoddau ariannol yn unig yn annhebygol o fod yn gyfiawnhad digonol.
  • Aflonyddu ar sail anabledd yw ymddygiad diofyn sy’n ymwneud ag anabledd, sydd â’r pwrpas neu’r effaith o darfu ar urddas rhywun, neu o greu amgylchedd sy’n fygythiol, gelyniaethus, bychanol neu sarhaus iddyn nhw.
  • Bydd darparwr gwasanaeth yn euog o erledigaeth anghyfreithlon os bydd yn trin rhywun yn wael oherwydd eu bod wedi gwneud cwyn am wahaniaethu neu aflonyddu dan y Ddeddf, neu am fod y darparwr gwasanaeth yn meddwl eu bod yn gwneud neu y gallen nhw wneud y pethau hyn. Mae hyn yn berthnasol p’un a yw’r person sy’n cael ei erlid yn anabl neu beidio.

Mae’n ofynnol i gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl. Mae gofyn i ddarparwyr gwasanaethau a chyflogwyr wneud newidiadau, lle bo eu hangen, i wella gwasanaeth i gwsmeriaid neu ddarpar gwsmeriaid anabl. Mae yna ofyniad cyfreithiol i wneud newidiadau rhesymol i’r ffordd o wneud pethau (megis newid polisi), i’r amgylchedd adeiledig (megis gwneud newidiadau i strwythur adeilad er mwyn gwella mynediad) ac i ddarparu cymhorthion a gwasanaethau ategol (megis darparu gwybodaeth ar ffurf hygyrch, dolen anwytho i gwsmeriaid â chymhorthion clyw, meddalwedd cyfrifiadurol arbennig, neu fwy o gefnogaeth gan staff wrth ddefnyddio gwasanaeth).

Hefyd, ni fydd gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd yn anghyfreithlon os gall y darparwr gwasanaeth ddangos nad oedd yn gwybod, neu na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl iddo wybod, fod y person yn anabl. Mae hyn yn golygu y dylai darparwyr gwasanaethau gymryd camau rhesymol i ddarganfod a yw rhywun yn anabl, ond dylid gofalu nad yw unrhyw ymholiadau’n tarfu ar breifatrwydd neu urddas y person anabl[4].

Os oes gan gyflogai anabledd sy’n ei gwneud yn anodd iddyn nhw weithio, dylai cyflogwyr ystyried pa addasiadau rhesymol y gallan nhw eu gwneud yn y gweithle, neu drefnu cyfweliad gyda’r cyflogai i weld beth ellir ei wneud i’w cefnogi. Gallai hyn fod mor syml â darparu cadair addas, ergonomig, neu ddarn o gyfarpar pweredig. Mae addasiadau rhesymol hefyd yn cynnwys trosglwyddo i fath arall o waith os bydd ei angeny[2].


Cyfeiriadau:

  1. Office for National Statistics. Disability in England and Wales, 2011 and Comparison with 2001.
  2. Disability discrimination.
  3. Welsh Government website. Economic Inactivity in Wales, 2007.
  4. Government Equalities Office. Equality Act 2010: What do I need to know? Disability Quick Start Guide.
  5. Government Equalities Office. Equality Act 2010 Duty on employers to make reasonable adjustments for their staff.