Cred a Diffyg Cred

Anghydraddoldeb Crefydd a Chred/Anghred yng Nghymru

Y Ffeithiau

Mae cynrychiolaeth i holl grefyddau mwyaf y byd yng Nghymru heddiw. Mae llawer ohonyn nhw wedi hen ymsefydlu yma ac yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru.

Yng nghyfrifiad 2011 nododd 57.6% o boblogaeth Cymru eu bod yn Gristnogion[1]. Mae’r crair Cristnogol hynaf a gafwyd yng Nghymru yn dyddio o 375OC ac yn portreadu’r Chi-Rho, sy’n hen symbol Gristnogol[2].

Roedd nifer y Moslemiaid yng Nghymru wedi dyblu o gymharu â’r cyfrifiad blaenorol. Yn 2001, roedd 0.7% o’r boblogaeth yn eu disgrifio’u hunain fel Mwslimiaid ac erbyn 2011 roedd y ffigur wedi codi i 1.5%. Mae mwy na hanner y boblogaeth o Fwslimiaid yn byw yng Nghaerdydd (51.8%)[3]. Ym 1947 adeiladwyd Mosg pwrpasol cyntaf Cymru yn Nhre-Biwt, Caerdydd[4].

Dangosodd cyfrifiad 2011 gynnydd hefyd yn nifer y bobl oedd yn eu galw eu hunain yn Fwdhyddion neu’n Hind?iaid. Cododd Bwdhyddion a Hind?iaid ill dau o 0.2% i 0.3% Yng Nghaerdydd roedd y mwyaf o Fwdhyddion yn byw, sef 1,690[5].

Roed nifer y bobl oedd yn eu disgrifio’u hunain fel Iddewon yn ddigyfnewid ar 1%. Iddewiaeth yw’r ffydd anghristnogol sydd wedi ei sefydlu hwyaf yng Nghymru. Mae yna gofnod ysgrifenedig o’r cymunedau Iddewig hynaf yng Nghymru, a sefydlwyd yn Abertawe tua 1730[6].

Roedd y canran o’r boblogaeth sy’n eu disgrifio’u hunain fel Siciaid hefyd yn ddigyfnewid ar 1%. Agorwyd y gwrdwara Sicaidd pwrpasol cyntaf yng Nghaerdydd ym 1989[7].

Roedd y categori “Unrhyw grefydd arall” yn cyfrif am 0.4% yn 2011, o gymharu â 0.2% yn 2001.

Rhwng 2001 a 2011 cododd nifer y bobl yng Nghymru a ddywedodd nad oedd ganddyn nhw unrhyw grefydd ymron i hanner miliwn (0 18.5% i 32.1%).

Religions of Wales

Gwybod eich Hawliau

Mae gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr oherwydd eu crefydd neu gred, neu eu diffyg crefydd neu gred, yn anghyfreithlon.

Nid oes rhestr benodol sy’n nodi beth yw gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred. Mae’r gyfraith yn ei ddisgrifio fel unrhyw grefydd neu gred grefyddol neu athronyddol. Mae hyn yn cynnwys pob un o’r crefyddau mwyaf, yn ogystal â rhai o’r rhai llai cyffredin.

Er mwyn cael ei ddiogelu dan y Ddeddf Gydraddoldeb, mae’n rhaid i gred athronyddol fodloni’r meini prawf hyn:

  • bod yn gred ddiffuant
  • bod yn gred ac nid yn farn neu safbwynt, yn seiliedig ar gyflwr presennol yr wybodaeth sydd ar gael
  • bod yn gred yn ymwneud ag agwedd sylweddol ar fywyd ac ymddygiad dynol
  • cyrraedd lefel benodol o effeithiolrwydd, difrifoldeb, cydlyniad a phwysigrwydd
  • haeddu parch mewn cymdeithas ddemocrataidd, bod yn gydnaws ag urddas dynol, a pheidio â gwrthdaro â hawliau sylfaenol pobl eraill.

Mae dyneiddiaeth ac anffyddiaeth yn enghreifftiau o gredoau athronyddol.

Diogelir gweithwyr rhag gwahaniaethu os nad ydynt yn arddel crefydd neu gred arbennig, neu os nad ydynt yn arddel yr un grefydd neu gred.

Does dim rhaid i gyflogwyr roi amser i ffwrdd o’r gwaith i weithwyr ar gyfer arferion a defodau crefyddol, ond dylent geisio bod mor hyblyg ag sy’n rhesymol. Er enghraifft, os bydd angen ystafell weddi ar weithiwr a bod ystafell addas ar gael, yna gellid caniatáu i’r gweithiwr ei defnyddio os na fyddai hyn yn tarfu ar weithwyr eraill neu’n amharu ar eu gallu i wneud eu gwaith yn iawn.

I lawer o gyflogwyr mae bod yn sensitif i anghenion diwylliannol a chrefyddol eu gweithwyr yn gwneud synnwyr busnes da. Gall hyn olygu darparu ar gyfer:

  • gweithio hyblyg
  • gwyliau crefyddol ac amser i ffwrdd o’r gwaith i gadw gwyliau a seremonïau
  • ystafelloedd gweddi gyda chyfleusterau ymolchi priodol
  • ateb gofynion o ran ymborth yn ffreuturiau ac ystafelloedd bwyta’r staff
  • gofynion o ran gwisg[8].



Cyfeiriadau:

  1. Statistics for Wales. 2011 Census: First Results for Ethnicity, National Identity, and Religion for Wales.
  2. BBC Website. Wales Religion and Belief: Multicultural Wales.
  3. Welsh Government. A Social Audit of the Muslim Community in Wales.
  4. Islam in British Stone. Muslim Heritage Sites in Britain.
  5. Office for National Statistics. 2011 Census: Religion, local authorities in England and Wales.
  6. Swansea University. Jewish Faith.
  7. BBC Website. Wales Religion and Belief: Multicultural Wales.
  8. Religion or belief discrimination.