Cyfeiriadedd Rhywiol

Anghydraddoldeb Cyfeiriadedd Rhywiol yng Nghymru

Y Ffeithiau

Yn ôl amcangyfrif StatsCymru[1] roedd tua 34,500 o bobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) yn byw yng Nghymru yn 2013 (1% o’r boblogaeth).

Yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg, amcangyfrifwyd fod nifer y bobl oedd yn eu disgrifio’u hunain fel LHD yn 12,100 (3% o boblogaeth Caerdydd).

Yng Nghaerdydd, dywedodd 92% eu bod yn heterorywiol/strêt. Trwy Gymru gyfan, 93% atebodd fel hyn. Dywedodd 1% o bobl yng Nghaerdydd a 2% o holl boblogaeth Cymru “Ddim yn gwybod” neu eu bod yn gwrthod ateb.

Yn ôl adroddiad o 2010 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol[2], roedd pobl oedd yn eu disgrifio’u hunain fel LHD yn fwy tebygol o fod wedi eu haddysgu i lefel gradd (38.1%) na phobl heterorywiol (21.9%). Roedden nhw hefyd yn fwy tebygol o fod wedi eu cyflogi (74.8%) na phobl oed yn eu disgrifio’u hunain fel strêt (68.6%). Hefyd dywedodd 80.4% o bobl LHD yn byw ym Mhrydain eu bod mewn iechyd da, o gymharu â 78.8% o bobl a ddisgrifiodd eu hunain fel heterorywiol.

Yn ôl data’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol[3] , mae oedolion LHD tua dwywaith yn fwy tebygol o adrodd am driniaeth annheg, gwahaniaethu, bwlio neu aflonyddu yn y gwaith na gweithwyr eraill.

Ydy gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn berthnasol  fi?

Mae’r amddiffyniad cyfreithiol rhag gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn berthnasol i bawb, beth bynnag bo’u cyfeiriadedd rhywiol[4].

Mae gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys cael eich trin yn llai ffafriol oherwydd:

  • eich bod yn lesbiad, hoyw, deurywiol neu strêt
  • bod pobl yn meddwl eich bod yn lesbiad, hoyw, deurywiol neu strêt, neu
  • eich bod yn gysylltiedig â rhywun sy’n lesbiad, hoyw, deurywiol neu strêt, er enghraifft ffrind, perthynas neu gydweithiwr

Mae’r gyfraith yn cynnwys gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, yn ogystal ag aflonyddu ac erledigaeth. Mae’r gyfraith yn berthnasol i’r sectorau preifat, cyhoeddus a di-elw.

Gwybod eich Hawliau

O dan Ddeddf cydraddoldeb 2010, mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr oherwydd cyfeiriadedd rhywiol. Diffinnir cyfeiriadedd rhywiol fel:

  • cyfeiriadedd tuag at bobl o’r un rhyw (lesbiaid a dynion hoyw)
  • cyfeiriadedd tuag at bobl o’r rhyw arall (heterorywiol)
  • cyfeiriadedd tuag at bobl o’r un rhyw a’r rhyw arall (deurywiol)

Mae’r Ddeddf yn berthnasol i nwyddau a gwasanaethau, pob cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol, ac yn cynnwys recriwtio, telerau ac amodau, dyrchafiadau, trosglwyddiadau, diswyddiadau a hyfforddiant. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i unrhyw un wneud unrhyw rai o’r canlynol ar sail cyfeiriadedd rhywiol:

  • gwahaniaeth­u’n uniongyrchol yn erbyn rhywun a’u trin yn llai ffafriol nag eraill oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol gwirioneddol neu dybiedig, er enghraifft, peidio â dyrchafu gweithiwr dim ond oherwydd eu bod yn hoyw.
  • gwahaniaethu’n anuniongyrchol – gosod maen prawf, darpariaeth neu arferiad sy’n anfanteisiol i bobl o gyfeiriadedd rhywiol arbennig, heb gyfiawnhad gwrthrychol; er enghraifft yn ofyniad galwedigaethol ac yn hanfodol i’r swydd. Enghraifft o hyn fyddai lle nad yw polisi arbennig ar gyfer absenoldeb mamolaeth/tadolaeth yn gymwys i gyplau o’r un rhyw.
  • aflonyddu ar rywun – ystyr aflonyddu yw ymddygiad diofyn sy’n tramgwyddo urddas person neu sy’n creu awyrgylch bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu sarhaus.
  • erlid rhywun oherwydd eu bod wedi, neu’n bwriadu, gwneud cwyn neu honiad mewn perthynas â chwyn o wahaniaethau ar sail cyfeiriadedd rhywiol.

Mae’r un mor anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl heterorywiol ac yw hi i wahaniaethu yn erbyn lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol[5].



Cyfeiriadau:

  1. Sexual identity by area and identity status.
  2. Gay Britain.
  3. Equality and Human Rights Commission. How fair is Britain? Executive summary.
  4. Equality and Human Rights Commission. Does Sexual orientation discrimination apply to me?
  5. Sexual Orientation Discrimination.