Hil

Anghydraddoldeb Hiliol yng Nghymru

Y Ffeithiau

Yn 2014 amcangyfrifwyd bod 126,100 o bobl o grwpiau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) yn byw yng Nghymru.

Mae tua 51,900 bobl BME eraill yn byw yng Nghaerdydd (14.8% o boblogaeth y ddinas) ac amcangyfrifir bod 16,700 o unigolion yn byw yng Nghasnewydd (11.4% o boblogaeth y ddinas honno).

Y cymunedau sydd â’r lleiaf o bobl o gefndiroedd BME yw Blaenau Gwent lle mae 800 o unigolion (1.2%) Ynys Môn (900 – 1.4%) a Phen-y-bont ar Ogwr (1,000 – 0.7%).

Ar wahân i Gaerdydd a Chasnewydd, yr awdurdodau oedd â’r amrywiaeth ethnig fwyaf yng Nghymru oedd: Abertawe 12,200 (5.1%) a Bro Morgannwg 4,300 (3.4%)[1].

Percentage of residents identifying as BME

Percentage of residents identifying as BME

Mewn astudiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2009, amlinellwyd rhai o’r anghenion a materion penodol yn ymwneud ag iaith a diwylliant[2]. Ymhlith y problemau roedd tebygolrwydd uwch bod unigolyn yn dod o deulu incwm isel, cyfraddau uwch o gyflyrau iechyd penodol, gwahaniaethu, byw mewn ardaloedd lle mae llawer o ddiweithdra, mudo a chlystyru sectorol[3].

Yn 2012, casglodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddata i ddarganfod cyfraddau diweithdra pobl ifanc oedd yn economaidd anweithgar (y rhai mewn gwaith yn ogystal â’r rhai di-waith)[4].

Cafodd yr ymchwil fod 55.5% o ddynion Duon rhwng 16-24 oed, oedd yn economaidd anweithgar yn ddi-waith. Roedd hyn yn agos i ddwbl nifer 2008.

Wrth gymharu cyfraddau diweithdra pob oedolyn economaidd weithgar yn y DG, gwelwn fod 19.7% o bobl Ddu, 9.4% o bobl Indiaidd, a 15% o bobl Bacistanaidd/Bangladeshaidd yn ddi-waith. Y ffigur ar gyfer pobl Wyn economaidd weithgar yw. 7.6%[5].

Yn ôl ymchwil yr Adran Gwaith a Phensiynau i wahaniaethu hiliol, byddai’n rhaid i rywun â chyfenw oedd yn swnio’n Affricanaidd neu’n Asiaidd anfon tua dwywaith gymaint o geisiadau am swyddi na rhywun â chyfenw oedd yn swnio’n draddodiadol Saesnig er mwyn cael cyfweliad swydd. Cafodd hefyd fod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn llai tebygol o wahaniaethu ar sail hil (4%) a bod cyflogwyr sector preifat lawer mwy tebygol o wahaniaethu (35%)[6].

Gwybod eich Hawliau

Mae gwahaniaethu ar sail hil yn digwydd pan gaiff person ei drin yn llai ffafriol oherwydd hil, lliw, cenedligrwydd neu dras ethnig neu genedlaethol.

Mae gwahaniaethu ar sail hil yn cynnwys pedwar maes:

Gwahaniaethu uniongyrchol: trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd eu cenedligrwydd gwirioneddol neu dybiedig, neu oherwydd hil rhywun maen nhw’n ymwneud â nhw.

Gwahaniaethu anuniongyrchol: gall hyn ddigwydd lle bydd polisi, arfer neu weithdrefn sy’n berthnasol i’r holl staff ond sy’n rhoi pobl o dras benodol dan anfantais arbennig. Er enghraifft, gallai bod yn ofynnol i bob ymgeisydd am swydd fod â TGAU Saesneg a Mathemateg: byddai hyn yn gwahaniaethu yn erbyn pobl o wledydd lle nad oes TGAU oni bai bod y cyflogwr yn derbyn cymwysterau cyfartal. Yr unig ffordd y gellir cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol yw os yw’n fodd cymesur o gyflawni nod ddilys.

Aflonyddu: pan fydd ymddygiad diofyn amdano sy’n gysylltiedig â hil â’r pwrpas neu’r effaith o darfu ar urddas unigolyn neu greu awyrgylch bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu sarhaus i’r unigolyn hwnnw.

Erledigaeth: trin gweithiwr yn annheg am ei fod wedi gwneud neu gefnogi cwyn am wahaniaethu ar sail hil.

Mewn rhai amgylchiadau penodol iawn, mae rhai swyddi all fynnu fod y deilydd yn perthyn i gr?p hiliol penodol. Gelwir hyn yn ‘ofyniad galwedigaethol’. Enghraifft o hyn yw lle bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaethau lles i nifer gyfyngedig o bobl a chael person o gr?p hiliol penodol i’w darparu yw’r ffordd fwyaf effeithiol oherwydd anghenion a sensitifrwydd diwylliannol.

Gweithredu cadarnhaol yw lle gall cyflogwr ddarparu cefnogaeth neu hyfforddiant, neu annog pobl o gr?p hiliol penodol.

Rhaid i gyflogwr sicrhau bod unrhyw weithredu cadarnhaol yn ffordd gyfesur o fynd i’r afael â thangynrychiolaeth gr?p hiliol arbennig, heb wahaniaethu’n annheg yn erbyn pobl o’r tu allan i’r gr?p hwnnw.

Ni chaniateir gweithredu cadarnhaol ond lle bydd gr?p hiliol:

  • yn dioddef anfantais
  • heb ei gynrychioli’n ddigonol
  • ag anghenion sy’n wahanol i anghenion grwpiau hiliol eraill yn y gweithlu.

Mae gweithredu cadarnhaol yn wahanol i wahaniaethu cadarnhaol, sef trin aelod o gr?p lleiafrifol yn fwy ffafriol. Mae hynny’n anghyfreithlon ym Mhrydain Fawr[7].



Cyfeiriadau:

  1. Ethnicity by area and ethnic group.
  2. Equality and Human Rights Commission. Equality issues in Wales: a research review.
  3. Parliament website. Work and Pensions Committee – Youth Unemployment and the Youth Contract.
  4. Office for National Statistics.  Labour Market Statistics, March 2012.
  5. Parliament website. Work and Pensions Committee – Youth Unemployment and the Youth Contract.
  6. Department for Work and Pensions. Research Report No 607. A test for racial discrimination in recruitment practice in British cities.
  7. Race discrimination.