Mynegiant Rhyweddol

Anghydraddoldeb Ailbennu Rhywedd yng Nghymru

Y Ffeithiau

Mae traws* a thrawsryweddol yn dermau a ddefnyddir i ddisgrifio pobl nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r rhaniad traddodiadol o wryw a benyw.

Mae’r term traws* yn cwmpasu llawer o fathau gwahanol o bobl a ffyrdd o fyw, gan gynnwys:

  • Pobl sy’n trawswisgo – Pobl sydd weithiau’n gwisgo dillad rhyw arall, ond nad ydyn nhw’n dymuno byw’n llawn amser fel aelod o’r rhyw hwnnw.
  • Pobl rhywedd-hylifol, dirywedd a ‘genderqueer’ – Pobl sy’n teimlo’u bod yn wrywaidd a benywaidd, neu nad ydyn nhw’n wryw na benyw, neu mae eu rhyw yn amrywio.
  • Breninesau drag, brenhinoedd drag a phobl eraill nad ydyn nhw’n ymddangos yn gonfensiynol wrywaidd neu fenywaidd.
  • Pobl Drawsrywiol neu Drawsryweddol – Pobl sydd â dymuniad cryf a chyson i fyw a chael eu derbyn yn aelodau o ryw gwahanol i’r un a bennwyd iddyn nhw adeg eu geni. Bydd llawer o bobl drawsrywiol yn cael triniaethau ailbennu rhywedd er mwyn i’w hymddangosiad weddu’n well â’u rhywedd; gall hyn gynnwys therapi hormonau a llawdriniaeth.

Bydd hunaniaethau rhyweddol (eu syniad o bwy ydyn nhw) pobl draws* yn aml yn gymhleth, a gall eu hunaniaeth ryweddol newid gydag amser. Er enghraifft, efallai bydd dyn yn dechrau trwy drawswisgo o bryd i’w gilydd, yna benderfynu yn ddiweddarach ei fod eisiau byw’n llawn amser fel menyw.  Enw’r broses hon yw pontio.

Mae’n well gan rai sy’n byw’n llawn amser fel rhyw arall beidio â defnyddio’r term “traws” o gwbl. Er enghraifft, efallai bydd yn well gan ddyn traws (rhywun sydd wedi pontio o fod yn fenyw i fod yn ddyn) gael ei alw’n ddyn yn unig, yn hytrach na dyn traws[1].

Pennir rhyw fiolegol adeg geni plentyn, yn ôl ymddangosiad yr organau cenhedlu. Hunaniaeth o ran rhywedd yw’r rhywedd mae person yn uniaethu ag ef, neu’n teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae rhyw fiolegol a hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth i’r rhan fwyaf o bobl – yr enw ar hyn yw bod yn cis neu’n cis-ryweddol – nid yw hyn yn wir am bawb. Er enghraifft, efallai bydd gan rai pobl gorff dyn, ond yn teimlo’u bod yn fenyw, lle gall eraill deimlo nad ydyn nhw’n ddiamheuol wrywaidd na benywaidd.

Gall y diffyg cyfatebiaeth hwn rhwng rhyw a hunaniaeth o ran rhywedd  arwain at deimladau gofidus ac anghyfforddus.  Gelwir hyn yn ddysfforia rhywedd.

Dysfforia rhywedd yw’r term meddygol a ddefnyddir i ddisgrifio’r teimlad o fod yn anghyfforddus yngl?n â’ch rhywedd ac i ddisgrifio trawsryweddoldeb – hynny yw, y dymuniad i fyw fel rhywedd gwahanol i’r un a bennwyd adeg eich geni. Mae dysfforia rhywedd yn gyflwr meddygol cydnabyddedig y gall triniaeth fod yn addas ar ei gyfer, ond nid salwch meddwl mohono[2].

Ychydig iawn o dystiolaeth sydd am faint yn union o bobl drawsrywiol a thrawsryweddol sy’n byw ym Mhrydain am fod llawer yn dewis peidio â datgelu eu hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd i’w meddygon teulu na cheisio triniaeth feddygol. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd cyfrif yn gywir faint o bobl drawsrywiol neu drawsryweddol sy’n byw ym Mhrydain[3].

Mae ystadegau poblogaeth gwahanol astudiaethau’n amrywio’n fawr. Mae’r Swyddfa Gartref yn amcangyfrif bod 1,550 i 2,400 o unigolion Traws ym Mhrydain[4] ond yn 2008, cyhoeddodd y Gymdeithas Ymchwil ac Addysg Hunaniaeth o Ran Rhywedd (GIRES) amcanestyniad bod cynifer â 300,000 o bobl yn byw yn y DG sy’n profi amrywiant rhyweddol i ryw raddau.

Dywed GIRES y gallai’r ffigur fod cyn uched â 500,000 (1%) os yw’r cydbwysedd rhyweddol ymhlith pobl mae eu rhywedd yn amrywio yn gyfartal, fel sy’n ymddangos yn fwyfwy tebygol[5].

Yn 2007, amcangyfrifir bod 1,500 o bobl (3 pherson ym mhob 100,000) wedi derbyn triniaeth am ddysfforia rhywedd. Mae data 2010 yn dangos cynnydd parhaus o tua 11% y flwyddyn. Os bydd y ffigurau’n parhau i gynyddu fel hyn, bydd y niferoedd yn dyblu pob chwe blynedd a hanner[6].

Gwybod eich Hawliau

Mae amddiffyniad i bobl drawsrywiol a thrawsryweddol rhag gwahaniaethu ac aflonyddu dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Dan y diffiniad cyfreithiol, mae gan berson trawsrywiol neu drawsryweddol y nodwedd warchodedig os ydyn nhw’n derbyn, wedi derbyn, neu’n bwriadu derbyn triniaeth ailbennu rhywedd.

Proses yw ailbennu rhywedd i newid eich rhyw trwy newid priodweddau ffisiolegol a/neu briodweddau eraill eich rhyw gan gynnwys, er enghraifft, eich enw cyntaf, eich teitl, eich dillad, ac ati.  Nid yw o reidrwydd yn golygu triniaeth feddygol neu lawdriniaeth, ond fe all.

Mae pobl nad ydyn nhw’n drawsrywiol ond mae rhywun arall yn credu ar gam eu bod, hefyd wedi eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd, yn ogystal â phobl sy’n gysylltiedig â pherson trawsrywiol.

Mae’r termau ‘traws’ neu ‘drawsryweddol’ yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl, megis trawswisgwyr a phobl eraill y gall eu hunaniaeth o ran rhywedd fod unrhyw le ar y sbectrwm rhwng neu tu hwnt i llwyr wrywaidd a llwyr fenywaidd. Dim ond pobl drawsrywiol mae’r ddeddfwriaeth gydraddoldeb yn eu hamddiffyn ond pe bai, er enghraifft, trawswisgwr yn dioddef gwahaniaethu oherwydd bod rhywun yn meddwl eu bod yn drawsrywiol, yna byddai’r ddeddf yn eu hamddiffyn nhw hefyd[7].

Mae mathau gwahanol o wahaniaethu y gall person traws eu profi ac y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn eu cynnwys:

Gwahaniaethu Uniongyrchol: Pan fydd person, rheol neu bolisi’n gwahaniaethu yn erbyn person dim ond oherwydd eu bod yn drawsrywiol.

Gwahaniaethu Anuniongyrchol: Pan fydd gennych reol neu bolisi sy’n gymwys i bawb ond sy’n rhoi person sydd â nodwedd warchodedig dan anfantais arbennig.

Aflonyddu: Ymddygiad mae’r sawl sy’n ei dderbyn yn teimlo’i fod yn dramgwyddus. Gall rhywbeth fod yn dramgwyddus i rywun hyd yn oed pan nad yw’r sylw wedi ei gyfeirio atyn nhw.

Aflonyddu gan drydydd parti: Gall cyflogwyr fod yn atebol am aflonyddu ar staff neu gwsmeriaid gan bobl nad ydyn nhw’n eu cyflogi’n uniongyrchol, er enghraifft contractwr. Enw arall am hyn yw Atebolrwydd Dirprwyol.

Erledigaeth: Erlid rhywun oherwydd eu bod wedi gwneud neu wedi ategu cwyn dan ddeddfwriaeth y Ddeddf Cydraddoldeb.

Gwahaniaethu ar Sail Canfyddiad: Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon ar yr un sail i neb wahaniaethu yn erbyn person neu aflonyddu arnyn nhw oherwydd cred eu bod yn bwriadu derbyn, yn derbyn ar hyn o bryd, neu wedi derbyn triniaeth ailbennu rhywedd.

Gwahaniaethu trwy gysylltiad: Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon wahaniaethu yn erbyn person neu aflonyddu arnyn nhw oherwydd eu bod yn gysylltiedig â rhywun sy’n bwriadu derbyn, yn derbyn ar hyn o bryd, neu sydd wedi derbyn triniaeth ailbennu rhywedd[8].



Cyfeiriadau:

  1. Transgender health and well-being.
  2. Gender dysphoria.
  3. Gender Identity Research and Education Society. Gender Variance UK report.
  4. Equality and Human Rights Commission, Research report 27. Trans research review.
  5. Gender Identity Research and Education Society. Gender Variance UK report.
  6. Gender Identity Research and Education Society. The Number of Gender Variant People in the UK – Update 2011.
  7. Government Equalities Office. Equality Act 2010: What do I need to know? A Quick Start Guide to Gender Reassignment for Voluntary and Community Organisations.
  8. Press For Change. The Equality Act 2010.
  9. EHRC Wales report. Not just another statistic.